Awgrymiadau ar gyfer eich ymarfer eich hun
Awgrymiadau ar gyfer Ymarfer Cyffredinol mewn perthynas ag anhwylderau bwyta
Ar ôl cwblhau’r offeryn dysgu yma efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn dymuno ymgorffori rhai o’r pwyntiau dysgu i’ch ymarfer eich hun.
Mae’n amlwg mai anorecsia nerfosa yw’r anhwylderau bwyta mwyaf difrifol, ond bydd y niferoedd y bydd ymarfer cyffredinol yn delio â nhw yn isel.
Mae nifer yr achosion o anhwylderau bwyta ymysg y boblogaeth o fenywod ifanc a gyflwynir i ymarfer cyffredinol yn tua 5%.
Drwy godi ymwybyddiaeth a chael eich arfogi i ddelio â’r cleifion yma pan maent yn cyflwyno eu hunain, bydd mynediad at driniaeth briodol yn haws i’ch cleifion.
Awgrymiadau ar gyfer adnabod cleifion
- sgrinio unigolion risg uchel gan ddefnyddio offeryn SCOFF
- chwilio drwy eich system gyfrifiadurol am gleifion â BMI sydd yn is na 17.5.
- gofyn i rai sydd yn mynychu’r practis yn aml a oes ganddynt broblemau mewn perthynas â bwyd
- ystyried anhwylderau bwyta mewn cleifion sydd yn cyflwyno anhwylder tymer
- sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o risg anhwylderau bwyta a’r arwyddion i fod yn wyliadwrus ohonynt
Argymhellion ar gyfer gwella arferion
- canfod pa wasanaethau sydd ar gael i gleifion ag anhwylderau bwyta yn eich ardal leol
- dod yn gyfarwydd â therapi ymddygiadol gwybyddol hunangymorth
- ymateb i bryderon gan rieni, ffrindiau neu athrawon
- cofio bod gan y glasoed ac oedolion anghenion gwahanol o ran triniaeth
- dod yn gyfarwydd â’r adnoddau priodol y gall eich claf neu ofalwr gyfeirio atynt, a gwneud rhestr ohonynt
Argymhellion ar gyfer gwella Gwasanaeth
- os nad oes gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol ar gael i’r glasoed neu oedolion, efallai y byddwch yn dymuno lobïo eich sefydliad gofal sylfaenol
- canfod a oes yna ymarferwyr yn eich ardal leol sydd yn defnyddio CBT-BN, ac os nad oes, pam?