Anorecsia nerfosa
Gwneud diagnosis
Er mwyn sefydlu diagnosis o anorecsia nerfosa, dylid defnyddio naill ai’r dosbarthiad a awgrymir gan Lawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Bwyta (DSM-IV-TR) neu Ddosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol Clefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig Sefydliad Iechyd y Byd(ICD).
Nid oes yna brawf biogemegol neu haematolegol ar gyfer anorecsia nerfosa, ond dylai pob achos a amheuir gael proses ddiagnostig, er mwyn diystyru achosion eraill o golli pwysau ac er mwyn gwirio am baramedrau biolegol y gall y salwch ei hun effeithio arnynt. Mae’r diagnosis yn dibynnu ar gyfuniad o archwilio credoau’r claf, profiad y claf a phobl eraill a’r nodweddion corfforol a ddangosir gan y claf. Bwriad meini prawf diagnostig yw cynorthwyo meddygon, ac ni fwriadwyd iddynt gynrychioli beth yw teimladau neu brofiadau dioddefwr unigol wrth fyw gyda’r salwch.
Y meini prawf diagnostig a ddefnyddir yn y DSM-IV-TR yw:-
- Gwrthod cynnal pwysau’r corff ar neu’n uwch nag isafswm pwysau normal ar gyfer oedran a thaldra: colli pwysau sydd yn arwain at gynnal pwysau corff sydd yn <85% o’r hyn sydd yn ddisgwyliedig, neu fethu ag ennill pwysau disgwyliedig yn ystod cyfnod o dwf.
- Ofn difrifol o golli pwysau neu o fod yn dew, er eu bod o dan eu pwysau.
- Effaith amharus ar y ffordd mae unigolyn yn teimlo am bwysau a siâp ei gorff, dylanwad diangen ar bwysau neu siâp y corff wrth hunanwerthuso, neu wadu difrifoldeb y pwysau corff isel presennol.
- Colli o leiaf dri cylch mislifol yn olynol (amenorrhea) mewn merched sydd wedi cael eu mislif cyntaf ond nad ydynt wedi mynd drwy’r menopos (postmenarce, merched cynfenoposaidd)
Hefyd, mae’r DSM-IV-TR yn nodi dau is fath:
- Math Cyfyngol: yn ystod y cyfnod presennol o anorecsia nerfosa, nid yw’r person wedi ymgymryd yn rheolaidd â gorfwyta mewn pyliau neu ymddygiad carthol (hynny yw, chwydu bwriadol neu gamddefnyddio carthyddion, diwretigion neu enemâu). Collir pwysau yn bennaf drwy fynd ar ddiet, ymprydio neu ymarfer corff gormodol.
- Math Gorfwyta mewn Pyliau neu Fath Carthol: yn ystod y cyfnod presennol o anorecsia nerfosa, mae’r person wedi ymgymryd yn rheolaidd â gorfwyta mewn pyliau NEU ymddygiad carthol (hynny yw, chwydu bwriadol neu gamddefnyddio carthyddion, diwretigion neu enemâu).
Mae meini prawf ICD-10 yn debyg, ond mae hefyd yn cyfeirio’n benodol at
- Y ffyrdd y gall unigolion achosi colli pwysau neu gynnal pwysau corff isel (osgoi bwydydd sy’n tewhau, chwydu bwriadol, carthu bwriadol, ymarfer corff gormodol, defnydd gormodol o lonyddwyr neu ddiwrtetigau).
- Rhai nodweddion seicolegol, yn cynnwys “anhwylder endocrin eang sydd yn cynnwys echel hypothalamig-pitwitari-gonadol sydd yn amlygu ei hun mewn merched fel amenorrhoea, ac mewn dynion fel colli diddordeb ac awch rhywiol. Efallai bod yna hefyd lefelau uwch o hormonau tyfu, lefelau cortisol uwch, newidiadau ym metaboliaeth ymylol yr hormon theiroid ac abnormaleddau mewn secretiad inswlin”.
- Os bydd yn dechrau cyn oed aeddfedrwydd, bod datblygiad wedi ei oedi neu yn araf.
Sut mae anorecsia nerfosa yn amlygu ei hun?
Gall anorecsia nerfosa fod yn anodd ei adnabod, yn arbennig yn ystod y camau cynnar, i weithwyr iechyd proffesiynol ac aelodau agos o’r teulu. Ar ôl sefydlu ei fod yn bodoli, gall effeithiau corfforol, seicolegol a cymdeithasol y cyflwr arwain at nifer o gyflyrau:
Gall cyflyrau corfforol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa |
Gall cyflyrau seicolegol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa |
Gall ymddygiadau cymdeithasol fod yn gysylltiedig ag anorecsia nerfosa |
---|---|---|
Colli pwysau sylweddol | Meddyliau obsesiynol/gweithredoedd mewn perthynas â bwyd a phwysau | Ymarfer corff gormodol |
Hypodensiwn osgo | Delwedd wyrgam o’r corff, yn meddwl eu bod yn dew hyd yn oed pan eu bod o dan eu pwysau | Bod yn gyfrinachol am ymddygiadau e.e. bwyta neu ymarfer corff |
Mynegai mas y corff yn is na 17.5 mewn oedolion | Hunanwerth isel | Ynysu cymdeithasol |
Anaemia | Meddyliau ffobaidd ynghylch ennill pwysau | Hunan-niwed bwriadol |
Llai na 85% o bwysau disgwyliedig mewn plant/glasoed | Mewnwelediad gwael i’r cyflwr | Camddefnyddio sylweddau |
Llai o gelloedd gwyn | Tymer isel, iselder clinigol, tymer anwadal a gorbryder | Byr eu hamynedd a dadleuol neu hyd y oed yn ymosodol ynghylch bwyd |
Amenorrhoea | Anhawster rhyngweithio ag eraill, naill ai’n fyr eu hamynedd neu’n gymdeithasol ynysig | Yn gwirio siâp y corff yn rheolaidd mewn drych neu bwysau ar glorian |
System imiwnedd ddim yn gweithio cystal | Anhwylder gorfodaeth obsesiynol | |
Curiad calon isel, cyfraddau metabolaidd is allai arwain at orbwysedd | Gwrthod derbyn y cysyniad o bwysau normal hyd yn oed yng nghyd-destun pwysau peryglus o isel | |
Twf crablyd | Teimlad bod rheoli eu pwysau yn rhoi iddynt reolaeth ar eu bywydau | |
Effaith ar electrolytau | Gwerthuso eu hunain yn bennaf yn nhermau siâp a phwysau eu corff | |
Pydredd deintyddol | ||
Diffyg mwynau, sinc yn benodol | ||
Oedema | ||
Rhwymedd | ||
Nodweddion rhywiol eilaidd wedi eu datblygu’n wael | ||
Ewinedd gwan neu frau | ||
Gwallt yn teneuo | ||
Llai o awch rhywiol mewn dynion |