Egwyddorion Caldicott

Egwyddor 1

Cyfiawnhau’r diben/dibenion

Dylai unrhyw ddefnydd arfaethedig neu drosglwyddo gwybodaeth y gellir adnabod claf ohoni o fewn neu o sefydliad gael ei glustnodi yn glir a dylai fod yn destun craffu, a dylai defnydd parhaus gael ei adolygu gan warcheidwad priodol.

Egwyddor 2

Peidiwch â defnyddio gwybodaeth y gellir adnabod claf ohoni oni bai fod hynny yn gwbl angenrheidiol. Ni ddylid cynnwys gwybodaeth y gellir adnabod claf ohoni oni bai fod hynny yn hanfodol at ddibenion penodol y gwaith. Dylid ystyried yr angen i adnabod  y claf ar bob cam wrth fodloni’r dibenion.

Egwyddor 3

Defnyddiwch cyn lleied â phosibl o wybodaeth y gellir adnabod y claf ohoni.

Pan ystyrir bod defnyddio gwybodaeth allai ddatgelu hunaniaeth y claf yn hanfodol, dylai cynnwys pob eitem unigol o wybodaeth gael ei ystyried a’i gyfiawnhau fel bod cyn lleied â phosibl o wybodaeth sydd yn datgelu hunaniaeth yn cael ei throsglwyddo neu yn hygyrch, fel sydd yn angenrheidiol er mwyn cyflawni unrhyw swyddogaeth benodol.

Egwyddor 4

Dim ond pan fo wir angen hynny y dylid cael mynediad at wybodaeth allai ddatgelu hunaniaeth claf. Dim ond yr unigolion hynny sydd angen mynediad at wybodaeth o’r fath ddylai gael mynediad ati, a dylent ond gael mynediad at yr eitemau gwybodaeth y maent angen eu gweld. Gallai hynny olygu cyflwyno camau rheoli neu rannu llif gwybodaeth pan fo un llif gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion.

Egwyddor 5

Dylai pawb sydd â mynediad at y cyfryw wybodaeth fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Dylid cymryd camau er mwyn sicrhau bod y rhai sydd yn trin y cyfryw wybodaeth - yn staff clinigol ac anghlinigol yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau i barchu cyfrinachedd cleifion.

Egwyddor 6

Deall a chydymffurfio â’r gyfraith. Mae’n rhaid i bob defnydd a wneir o’r cyfryw wybodaeth fod yn gyfreithlon. Dylai rhywun ym mhob sefydliad sydd yn trin gwybodaeth am gleifion fod yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau