Newidiadau

  •  Clustnodwch beth sydd angen newid er mwyn gwella eich perfformiad.
  • Cytunwch â phobl eraill fel sy’n briodol
  • Cynlluniwch sut fydd y newidiadau yn cael eu gwneud.
    • Pa adnoddau sydd eu hangen a phwy ddylai fod yn rhan o hynny?
    • Pryd fyddwch yn dechrau gwneud y newidiadau?

3 o feddygon yn eistedd wrth gyfrifiadur yn edrych ar ddogfen

Dyluniwch eich prosiect er mwyn sicrhau’r tebygolrwydd mwyaf y bydd enwid yn digwydd. Mae newid llwyddiannus yn fwy tebygol pan fo;

  • gan aelodau staff gymhelliant i wella ymarfer yn y maes yma. Os bu’r archwiliad yn bwysig i’r archwiliwr yn unig, neu os mai cefnogaeth gyfyngedig fu iddo, mae’n llai tebygol o arwain at newid i’r system, ond yn achos archwiliad personol pan fo’r awdur yn myfyrio’n fewnol ar agwedd o’r gofal mae’n ei darparu gall fod yn fuddiol trafod gyda chydweithiwr, mentor neu yn ystod arfarniad, gan amcanu at wneud gwelliannau i’r elfen honno o’r gwaith yn ystod y cylch arfarnu nesaf.
  •  Mae’r holl unigolion allweddol yn ymwneud â cham dylunio’r prosiect (pobl fydd â’r gair olaf ynglŷn ag unrhyw newidiadau arfaethedig i ymarfer)
  •  Defnyddir methodoleg gydnerth yn eich prosiect - fel y gallwch sicrhau eraill ynghylch dilysrwydd a dibynadwyedd eich canlyniadau.
  •  Nodir ysgogwyr newid a’r rhwystrau. Gall y rhain fod yn sefyllfaol, amgylcheddol neu bersonol (yn deillio o agweddau cadarnhaol neu negyddol, neu argaeledd sgiliau ac adnoddau addas)
  •  Gwneir cynlluniau i ddefnyddio ysgogwyr a goresgyn y rhwystrau (ond efallai y bydd angen cyfaddawdu)
  •  Deall pam y gallai pobl fod yn wrthwynebus. A yw hynny oherwydd eu bod yn ofni colli rhywbeth pwysig (e.e. statws, annibyniaeth, gwobr, dylanwad). Efallai bydd angen mynd â staff ar ‘daith newid’’.

Mae Tabl 3 yn nodi’r pum cam y gall pobl fynd drwyddynt pan ofynnir iddynt wneud newid, er na fyddant o reidrwydd yn mynd drwy bob cam.

Tabl 3
Gwadu Gwadu bod angen y newid
Amddiffyn Amddiffyn y sefyllfa bresennol
Diystyru / Derbyn Ildio i’r ffaith bod angen newid
Addasu Gwneud i ffyrdd newydd weithio er gwaethaf problemau
Mabwysiadu Derbyn mai’r ffordd newydd yw’r norm

(Ymddiriedolaeth Ysbyty Unedig Bryste (UBHT) 2005)

Efallai y bydd pethau yn waeth i ddechrau ar ôl newid wrth i bobl a systemau addasu. Rhowch amser i hynny.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau