Ychwanegu gwybodaeth arfarnu
Trafodir y math o wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys yn eich arfarniad blynyddol yn Adran 4 yr adnodd yma - ‘Beth sydd angen i mi ei gynnwys’. Byddwch yn ychwanegu cofnodion i’ch arfarniad ac yn dewis pa gategorïau y dylai berthyn iddynt, er enghraifft CPD neu ddadansoddi Digwyddiadau Arwyddocaol. Byddwch hefyd angen nodi ar gyfer pa faes mae’r wybodaeth yn fwyaf addas. Y meysydd yw:
Maes 1 - Gwybodaeth, Sgiliau a Pherfformiad
Maes 2 - Diogelwch ac Ansawdd
Maes 3 - Cyfathrebu, Partneriaeth a Gwaith Tîm
Maes 4 - Cynnal Ymddiriedaeth, Addysgu, Ymchwil, Arweinyddiaeth ac Arloesedd
Gallwch hefyd lanlwytho Tystiolaeth Ategol i MARS er mwyn ategu eich gwybodaeth arfarnu, er enghraifft, tystysgrif o’r cwrs yr ydych wedi ei fynychu.
Gallwch ychwanegu gwybodaeth arfarnu hyd at 14 diwrnod cyn y cyfarfod arfarnu.