Cytuno â’ch crynodeb arfarnu
Ar ôl y cyfarfod arfarnu, sydd fel arfer yn para tua 2 awr, bydd eich Arfarnwr yn ysgrifennu’r ‘crynodeb arfarnu’. Fel arfer bydd hwnnw yn cael ei gwblhau yn ystod yr 14 diwrnod ar ôl y cyfarfod, ac ar ôl i hynny gael ei wneud bydd yr Arfarnwr yn cyflwyno’r crynodeb a byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost bod y crynodeb erbyn hyn ar gael i’w adolygu.
Byddwch yn mewngofnodi i MARS i weld y crynodeb o’r arfarniad ac yna byddwch naill ai’n ‘derbyn’ neu ‘wrthod’ y crynodeb o’r arfarniad. Os byddwch yn hapus gyda’r crynodeb o’r arfarniad bydd angen i chi ei dderbyn. Ni ellir dadwneud y broses hon felly sicrhewch eich bod yn ei wirio’n drwyadl cyn gwneud hynny.
Os oes yna ran o’r crynodeb yr ydych yn credu ddylid ei newid gallwch ‘wrthod’ y crynodeb a nodi yn y blwch nodiadau beth ydych yn teimlo sydd angen ie newid. Yna bydd y crynodeb yn mynd yn ôl i’r Arfarnwr i’w adolygu, ac yna bydd yn cael ei gyflwyno yn ôl i chi ar ôl hynny.