Hanes
Wrth asesu wlser claf, mae hanes ac archwilio yn bwysig wrth sefydlu achoseg yr wlser hwnnw.
Hanes sydd yn awgrym wlser gwythiennol:
- hanes teuluol o glefyd gwythiennol
- Thrombosis gwythiennau dwfn
- Coes wedi ei thorri yn y gorffennol
- Symudedd cyfyngedig
- Merched - galwedigaeth gyda chyfnodau hir o fod ar eu traed - nyrsio, trin gwallt, beichiogrwydd niferus
- Dynion - galwedigaethau gyda chyfnodau hir pan fo’r corff mewn ystum lletchwith (gyrwyr loriau ar deithiau hir, gyrwyr beiciau modur), bol mawr
- Symptomau clefyd gwythiennol: teimlad o drymder yn y goes, anghysur, crampiau, llid ar y croen (eczema gwythiennol)
- Chwistrellu cyffuriau hamdden i'r system gwythiennol
Hanes sydd yn awgrym wlser gwythiennol:
- Clefyd y galon Ischaemig
- Diabetes Mellitus
- Anaemia
- Clefyd fasgwlar perifferol
- Clawdiceiddiad ysbeidiol
- Ysmygu
- Damwain fasgwlaidd yr ymennydd