Crynodeb
- Mae syndrom coesau aflonydd yn gyflwr cyffredin sydd yn effeithio ar 2-3% o’r boblogaeth o oedolion.
- Mae yna set cydnabyddedig rhyngwladol o feini prawf diagnostig
- Gall fod yn idiopathig neu‘n eilaidd i gyflyrau meddygol eraill neu gyffuriau penodol
- Mae’n ymddangos bod yna ragdueddiad genetig mewn dros 50% o’r achosion
- Dylai gwerthusiad cychwynnol o’r claf gynnwys hanes, archwiliad a gwirio serwm fferitin, a chynnal profion eraill fel bo’n briodol.
- Tybir bod yna ddiffyg metabolaeth dopamin yn yr ymennydd
- Dylid diystyru diffyg haearn ac os yw hynny’n bodoli dylid ymchwilio iddo a’i gywiro
- Mae addysgu’r claf a mesurau hunangymorth yn elfennau pwysig o’r driniaeth
- Mae offeryn hunan raddio symptomau wedi ei dilysu ar gael, a dylid ei ddefnyddio i asesu difrifoldeb wrth ystyried triniaeth gyda chyffuriau
- Mae triniaeth â chyffuriau yn effeithiol, ond maent yn achosi risgiau sylweddol o sgil effeithiau
- Efallai y bydd angen cymryd cyffuriau fel triniaeth am oes, er bod yna gyfraddau rhyddhau a gwella symptomau arwyddocaol
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.