Cyflyrau cyhyrysgerbydol a gorddefnyddio eraill.

  1. a) Poen cefn a gwddf.

Problemau cefn a gwddf yw un o brif achosion poen cronig ymhlith cerddorion, gydag astudiaeth ddiweddar yn dangos bod 70% o gerddorion proffesiynol yn dioddef o boen cefn, a 64% o boen gwddf 9. Gwelwyd ffigurau tebyg mewn astudiaeth fawr o gerddorion cerddorfa proffesiynol yn yr Almaen 10 hefyd, gyda cherddorion yn dweud mai'r cefn, y gwddf a'r ysgwydd sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan boen cronig. Roedd yr astudiaeth hon yn dangos fod gan 66% o gerddorion boen rheolaidd neu gronig sy'n para 3 mis a mwy, ac yn trafod risg perfformwyr o ddatblygu poen cronig, gyda pherfformwyr yn aml yn amharod i gyfaddef bod ganddyn nhw broblemau meddygol rhag ofn iddyn nhw golli eu lle mewn cerddorfa broffesiynol, ar ôl gweithio mor galed i gyrraedd yno yn y lle cyntaf. Ymddengys hefyd nad yw llawer o berfformwyr yn ystyried eu poen cronig fel mater patholegol, ond rhywbeth sy'n rhaid ei oddef a gweithio o'i amgylch. 

Mae chwaraewyr uwchlinynnau (feiolíns a fiolas), chwythbrennau, offerynnau pres ac offerynwyr taro a thelynorion i gyd yn adrodd am gyfraddau uwch o boen cefn, ac mae cydberthynas uchel rhwng maint a phwysau'r offeryn a nifer yr achosion o symptomau ymhlith offerynwyr pres a chwythbrennau.

Roedd astudiaeth arall 11 ar aelodau o 6 cherddorfa symffoni elit gwledydd Prydain yn dangos bod 86% wedi profi poen yn un rhan o’r corff yn ystod y 12 mis blaenorol, yn enwedig yn y gwddf, y cefn a'r ysgwyddau. Roedd mwy o achosion ymysg offerynwyr benywaidd, rhai isel eu hysbryd a rhai â sgorau somateiddio uchel.  Nid oedd cydberthynas â gorbryder am berfformio. Canfuwyd bod risgiau anaf yn amrywio'n sylweddol yn ôl yr offeryn a chwaraewyd, a daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod hwn yn rhoi canolbwynt i’r gwaith o atal y broblem yn y lle cyntaf.

Mae mynd i'r afael ag osgo'r corff, techneg, seddi, sesiynau cynhesu ac oeri, standiau cerddoriaeth hyblyg, ategion gên, harneisiau a dyfeisiau eraill oll rolau pwysig i'w chwarae wrth atal y cyflyrau hyn. Ymhlith y triniaethau a ddefnyddir gan gerddorion yn y maes hwn mae ffisiotherapi, osteopathi a thechneg Alexander .

 

 

  1. b) Problemau gyda'r ysgwyddau.

Fel y soniwyd uchod, mae cerddorion yn agored iawn i anafiadau i'r ysgwydd, gyda chwaraewyr uwchlinynnau, ffliwtwyr, a thrwmpedwyr mewn perygl arbennig gan eu bod yn codi'r breichiau wrth chwarae. Gall tendonitis a hyd yn oed fferdod ysgwydd ddigwydd, sy'n gallu peryglu gyrfa cerddor. Unwaith eto, mae trin problemau'n ddigon cynnar a mynd i'r afael ag osgo, techneg, gosodiadau offerynnau, a chynhesu ac oeri'n iawn i gyd yn ffactorau pwysig wrth ddelio â'r grŵp hwn o anafiadau.

Mae gitaryddion (llaw dde) yn gallu cael poenau yn yr ysgwydd chwith oherwydd strap y gitâr a phoen yn yr ysgwydd dde oherwydd safle'r fraich a'r holl strymio ailadroddus, ac mae ffliwtwyr yn dueddol o gael 'subacromial impingement symdrome'.

 

  1. c) Tendonitis.

Achosir tendonitis gan symudiadau rheoledig ailadroddus, ac mae'n aml yn effeithio ar waelod y bawd, arddyrnau, ysgwyddau, penelinoedd a dwylo cerddorion. Ymddengys bod feiolinwyr, pianyddion a gitaryddion mewn perygl arbennig. Gallai feiolinwyr ddioddef tendonitis yn yr arddyrnau, yr ysgwyddau a'r penelin dde (wrth dynnu bwa), tra gall pianyddion ddatblygu tendonitis yr arddwrn oherwydd gorymarfer. Gall gitarwyr ddioddef tendonitis y bawd drwy afael yn rhy dynn yn y plectrwm, neu rannau eraill o'r corff trwy ddal gwddf yr offeryn yn rhy dynn.

Mae cynhesu’n dda, ymestyn, cymryd seibiannau rheolaidd ac osgoi gorymarfer i gyd yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi datblygu tendonitis. Mae gorffwys yn eithriadol o bwysig os bydd y cyflwr yn datblygu, fel y mae ffisiotherapi, ac mae cymryd seibiant hir o chwarae i sicrhau adferiad yn aml yn angenrheidiol er mwyn osgoi problemau parhaus.

  1. d) Tenosynovitis.

Unwaith eto, mae'r cyflwr hwn yn cael ei achosi gan symudiadau ailadroddus. Er bod tendonitis yn datblygu o ganlyniad i llid y tendonau, mae tenosynovitis yn deillio o tendonitis gyda chwydd cysylltiedig yn leinin gwain y tendon. Mae 2 fath o hyn yn achosi problemau penodol i gerddorion:

Tenosynovitis De Quervains.

Mae hyn yn arbennig o gyffredin ymysg gitaryddion ond gall fod yn broblem i bianyddion hefyd. Gall strymio'r gitâr drosodd a throsodd a a gorblygu'r llaw arwain at boen a chwydd wrth fôn y bawd.  Gellir trin hyn drwy orffwys, ymarferion, sblint a ffisiotherapi. Mewn achosion difrifol gellir defnyddio pigiadau steroid neu hyd yn oed lawdriniaeth i ryddhau tendon.

Tenosynovitis stenosing neu bys/bawd glicied

Mae fiolyddion mewn perygl arbennig o ddioddef cyflwr bawd glicied, sy'n effeithio'n fwyaf aml ar y mynegfys. Fe'i hachosir gan symudiadau ailadroddus sy’n golygu gafael neu wasgu am amser maith ac mae'n fwy cyffredin mewn chwaraewyr benywaidd. Mae'n bwysig gorffwys os bydd symptomau'n datblygu, ac mae triniaeth yn debyg iawn i'r hyn a ddisgrifir ar gyfer tenosynovitis De Quervains fel y manylir uchod.

  1. e) Bwrsitis.

Gall bwrsitis mewn cerddorion fod yn anaf gorddefnyddio neu'n ganlyniad i drawma uniongyrchol neu dechneg wael, ac mae natur chwarae offeryn yn golygu bod cerddorion yn agored i'r cyflwr hwn. Mae cerddorion offerynnol yn dueddol o gael bwrsitis sgapwlothorasig os yw chwarae eu hofferyn yn golygu symudiadau ailadroddus lle mae angen codi’r breichiau drosodd a throsodd neu am amser hir, ac mae pianyddion â thechneg wael yn dueddol o gael problemau gyda’r sgapwla hefyd. Mae chwaraewyr gitâr fas mewn perygl o gael bwrsitis yr ysgwydd hefyd.

Mae triniaeth yn cynnwys gorffwys, sblintiau a bresau, ffisiotherapi, NSAIDs, ac weithiau pigiadau steroid a/neu lawdriniaeth.

  1. f) Gorsymudedd.

Mae syndrom gorsymudedd cymalau yn effeithio ar 10-20% o'r boblogaeth, ac mae'n fwy cyffredin ymhlith menywod, plant a phobl ifanc, a phobl o dras Asiaidd a Gorllewin Affrica. Gall diagnosis a thriniaeth gynnar atal problemau yn y dyfodol a chaniatáu i gerddorion barhau â'u gyrfa.

  1. g) Arthritis.

Mae osteoarthritis yn dod yn broblem gynyddol i gerddorion wrth iddynt fynd yn hŷn, ac nid ydym yn deall digon am rôl anaf gorddefnyddio yn natblygiad osteoarthritis mewn cerddorion. Y rhannau o'r corff a effeithir fwyaf yw’r meingefnau serfigol a thorasig, y cymal CMC 1af, cymalau IP y bysedd a'r penelin. Mae obowyr a chlarinetwyr yn dueddol o ddioddef osteoarthritis yn y fawd dde yn y cymal MCP.

Bydd stiffrwydd y cymalau yn cael cryn effaith ar berfformiad, a nod triniaeth yw sicrhau bod y cymalau'n gweithio cystal ag y gallan nhw er mwyn sicrhau bod y bysedd yn hyblyg.

  1. h) Crebachedd Dupuytrens.

Mae mwy o achosion o grebached Dupuytrens mewn pianyddion ac offerynwyr llinynnol. Mae gan rai cleifion ragdueddiad genetig i Dupuytrens, ac mae'r cyflwr yn gwaethygu'n raddol ac yn gallu cael effaith ddinistriol ar yrfaoedd cerddorol.

Gall diabetes, smygu ac yfed gormod o alcohol i gyd gynyddu'r risg o gael Dupuytrens, ac efallai y bydd cerddorion am addasu eu ffordd o fyw er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o ddioddef o'r cyflwr.

 

 

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau