Penderfynu ynghylch rheoli a diffiniadau o iselder
a. Ffactorau sydd yn ffafrio cyngor cyffredinol a monitro gweithredol
Symptomau iselder o dan y trothwy:
- Pedwar neu lai o’r symptomau cydnabyddedig gydag ychydig o anabledd cysylltiedig
- Symptomau yn gyfnodol, neu’n para am lai na pythefnos
- Wedi dechrau’n ddiweddar gyda straenachoswr wedi ei adnabod
- Dim hanes teuluol na hanes o iselder yn y gorffennol
- Cymorth cymdeithasol ar gael
- Dim meddyliau hunanleiddiol
b. Ffactorau sydd yn ffafrio triniaeth mwy gweithredol mewn gofal sylfaenol:
Iselder ysgafn: Ychydig o symptomau, os o gwbl, yn fwy na’r 5 sydd eu hangen i wneud y diagnosis, a symptomau ond yn arwain at fân amhariad ffwythiannol.
- Pum symptom neu ragor gydag anabledd cysylltiedig
- Symptomau parhaus
- Hanes teuluol neu hanes o iselder yn y gorffennol
- Dim llawer o gymorth cymdeithasol
- Meddyliau hunanleiddiol yn achlysurol.
c. Ffactorau sydd yn ffafrio atgyfeirio at weithwyr iechyd meddwl proffesiynol
Iselder cymedrol: Symptomau neu amhariad ffwythiannol rhwng ‘ysgafn’ a ‘difrifol’
- Ymateb annigonol neu anghyflawn i ddau neu ragor o ymyriadau
- Pwl arall yn digwydd o fewn 1 flwyddyn i’r un olaf
- Hanes yn awgrymu anhwylder deubegynol
- Y person ag iselder, neu berthnasoedd, yn gofyn am atgyfeirio
- Meddyliau hunanleiddiol mwy mynych
- Hunan esgeulustod
d. Ffactorau sydd yn ffafrio atgyfeirio ar frys at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol
Iselder difrifol: Y rhan fwyaf o’r symptomau, a’r symptomau yn amlwg yn effeithio ar ffwythiannau. Gall hynny ddigwydd gyda neu heb symptomau seicotig.
- Syniadau neu gynlluniau hunanleiddiol o ddifri
- Symptomau seicotig
- Anniddigrwydd difrifol yn ategu symptomau difrifol
- Hunan esgeulustod difrïol