Canfod canser yn gynnar
Mae diagnosis cynnar ac atgyfeirio o ofal sylfaenol yn bwysig. Mae’r amser a gymerir mewn perthynas â diagnosteg ac adrodd ar ganlyniadau yn dylanwadu ar effeithiolrwydd triniaeth a phrognosis. Tybir bod cyflwyniad hwyr yn ffactor allweddol mewn perthynas â chyfraddau goroesi gwael. Mae’r siart isod yn amlygu’r llwyddiant o ran diagnosio canser cam cynnar, ond yn dangos y potensial ar gyfer gwella.
*Canran y bobl y mae eu canser yn cael ei ddiagnosio yn gynnar.
Mae diagnosio canser yn gynnar yn cynnig gwell deilliannau, ac mae hynny yn cynnwys:
- Y cyhoedd yn ymgysylltu ag adnabod symptomau ac atgyfeirio cynnar at y meddyg teulu
- Adnabod symptomau sydd yn arwydd o berygl ac ymchwiliadau cynnar gan feddygon teulu
- Diagnosteg amserol mewn gofal eilaidd
Yng Nghymru, y ddau darged ar gyfer amseroedd aros yw:
- Dylai 95% o’r bobl sydd newydd gael eu diagnosio â chanser (drwy’r llwybr brys ar gyfer canser a amheuir) ddechrau ar eu triniaeth ymhen 62 diwrnod o gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.
- Dylai 98% o’r bobl a atgyfeirir am resymau eraill ond a ddiagnosir â chanser (nid drwy’r llwybr brys ar gyfer canser a amheuir) ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod o’r penderfyniad i roi triniaeth