Sgeptigaeth ynghylch ffibromyalgia
Mae’r canllawiau yn cyfeirio at y “sgeptigaeth mewn perthynas â syndrom o gwynion goddrychol”. Gofynnodd arolwg anffurfiol diweddar o feddygon teulu yng Nghymru (n=30) “Beth yw eich barn ym Ffibromyalgia?” Roedd yr ymatebion yn gymysg:-
- ‘Ymgynghoriad hunllefus”
- Endid clinigol - ond anodd ei ddiagnosio
- Rwyf yn amheus ynghylch ei fodolaeth fel endid clinigol neilltuol. Mae gan y rhan fwyaf o’r cleifion yr wyf wedi eu gweld sydd â’r diagnosis neu sydd efallai â’r diagnosis, gymysgedd cymhleth o symptomau “somatoseicogymdeithasol”, gyda thristwch, trallod a thrueni cyffredinol
- Rwy’n credu y daw o dan ambarél seicosomatig. Nid oes gen i broblem gyda hyn. Rwyf yn teimlo, heb unrhyw gyfiawnhad, bod pobl yn ofni poen mewn mannau sydd yn tueddu i fod yn boenus....
- Mae’n bodoli
- Mae’n ddisgrifiad o symptom sydd wedi esblygu i fod yn ddiagnosis ffug er ei fod efallai yn amlffactoraidd
- Clefyd ffug
- Cysyniad defnyddiol iawn sydd yn galluogi i’r clinigwr hyrwyddo newidiadau buddiol i ffordd o fyw (a thechnegau seicolegol megis CBT) i gleifion y mae’n ymddangos eu bod wedi colli eu ‘hidlydd poen’, ac a fyddai fel arall yn gwrthod mentrau o’r fath.
- Rwyf yn ceisio ei wneud yn benderfyniad positif i ddiagnosio fm a symud y claf yn ei flaen o ran ymdopi â’r symptomau.
- Os ydych yn golygu a wyf yn credu ei fod yn glefyd “real” - mi ydw i, oherwydd pan fo cleifion yn canfod poen neu flinder, dylem ni fel meddygon dderbyn hynny hyd yn oed os nad oes gennym “brawf” i gadarnhau’r diagnosis. Rwyf yn credu ei bod yn anodd ei reoli, ac mae’n rhaid teilwra pob triniaeth i’r claf.
Gydag ystod mor eang o safbwyntiau mae’n debyg bod cleifion gyda ffibromyalgia yn derbyn lefelau gwahanol o gymorth, cyngor a thriniaeth.
Gofynnwyd i’r un grŵp “Pa nodweddion mae cleifion â Ffibromyalgia yn eu dangos?”, ac eto roedd yr ymatebion yn amrywio:-
- Blinder cronig. Anniddigrwydd a mannau dolurus lleol. Yn aml yn llawer gwaeth na “salwch feirysol”
- Benywaidd, niwrotig, tenau
- Mynychu’n gyson a sgiliau ymdopi gwael
- Poen cyffredinol yn achosi llesgedd sylweddol. Diffyg ymateb i analgesia. Trallod seicolegol a diymadferthedd
- Gwallgof
Gallai rhoi o’r ymatebion egluro pam fod cleifion â ffibromyalgia yn aml yn cwyno am ddiffyg ymgysylltu gan y proffesiwn meddygol (Chwiliwch ar Google am Ffibromyalgia ac edrychwch ar rai o’r fforymau).
Roedd y cwestiwn olaf a ofynnwyd yn yr arolwg yma yn adlewyrchu teimladau’r meddyg yn ystod yr ymgynghoriad. Sut mae cleifion â Ffibromyalgia yn gwneud i chi deimlo?
- Mae’n heriol, ond fel arfer rwyf yn cydsynio â’u dealltwriaeth. Nid wyf yn gwybod a yw’n fuddiol ei labelu, ar wahân i'r ffaith bod rhiwmatolegwyr yn gallu eu rhyddhau!
- Isel, oherwydd mae’r cyflwr yn gronig ac mae’r cleifion yma angen llawer o fewnbwn.
- Anodd ei drin a buaswn yn hoffi cael mwy o amser i gael hanes, eu harchwilio a llunio cynllun
- Rhwystredig ac anniddig
- Da, oherwydd o leiaf rwyf yn gallu gwneud rhywbeth i’r grŵp sylweddol yma o gleifion: yn bennaf o ran eu cael NHW i wneud newidiadau
- Ymateb greddfol yw Di-rym / Llwm.... ond rwyf yn ceisio cymell fy hun i’w hystyried fel her o ran y ffordd y gall fy mherthynas â nhw fod yn therapiwtig
- Llwm
- Rwyf yn fodlon iawn pan ddaw claf â ffibromyalgia i fy ystafell ymgynghori yn gwenu!
- O na! Ymgynghoriad 30 munud mewn slot 10 munud...
- Rwyf yn dymuno y gallwn gynnig rhywbeth gwell o ran sicrwydd diagnostig ac effeithiolrwydd therapiwtig
Mae hyn yn oed cohort bychan o feddygon teulu yn amlwg yn dangos y ddadl sydd yn bodoli ynghylch diagnosis o ffibromyalgia.
Mae’r cwmwl geiriau yma wedi ei lunio o destun yr ymatebion - po fwyaf yw’r gair, y mwyaf aml y’i defnyddiwyd yn yr ymatebion i’r arolwg.