Dull Atal Cenhedlu Hormonaidd Cyfunol
Cefndir
Mae Dull Atal Cenhedlu Hormonaidd Cyfunol (CHC) wedi bod mewn bodolaeth ers bron i 60 mlynedd, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan filiynau o fenywod dros y byd i gyd. Mae’n ddull atal cenhedlu hynod effeithiol, 99% effeithiol os yw’n cael ei ddefnyddio’n iawn, ond yn ymarferol mae’r gyfradd beichiogrwydd yn 9% yn ystod y flwyddyn gyntaf o’i ddefnyddio. Yn y DU, mae’n cael ei bresgripsiynu ar ffurf pilsen fel arfer (dull atal cenhedlu cyfunol drwy’r geg, COC) ac mae’n cynnwys </= 35ug estrogen ethinylestradiol synthetig wedi’i gyfuno â progestin synthetig. Mae ar gael hefyd ar ffurf clwt neu fodrwy. Mae’r canllawiau sy'n dilyn yn cyfeirio at ddefnyddio COC dos isel (</=35ug ethinylestradiol).
Camau Gweithredu
Mae COC yn atal ofyliad drwy weithredu ar yr echelin hypothalamig-pitẅidol-ofarïaidd drwy atal LH a FSH. Gall y progestin hefyd effeithio ar fwcws serfigol, lluosogiad endometriaidd a symudoldeb tiwbol.
Mathau
Mae’r rhan fwyaf o COC a ddefnyddir yn rheolaidd yn cynnwys </= 35ug ethinylestradiol a progestin. Mae sawl math o brogestin ar gael, ac maen nhw wedi’u rhannu'n fras yn brogestinau cenhedlaeth hŷn a mwy newydd. Mae’r progestinau hŷn yn cynnwys norethisterone a levonorgestrel; mae’r progestinau mwy newydd yn cynnwys desogestrel, gestodene, norgestimate, drospirenone, dienogest, a nomegestrol acetate. Mae’r progestinau mwy newydd, sydd wedi’u dylunio i gael llai o effeithiau androgenig a glucocorticoid, yn cael eu cysylltu â risg uwch o VTE (clefyd thrombo-embolig gwythiennol) ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried fel dewis cyntaf.
Mae’r mwyafrif o COC yn monoffasig (mae’r dos o estrogen a progestin yn gyson drwy gydol cyfnod ei ddefnyddio), ond mae rhai ohonynt yn amryw-weddol (dos amrywiol drwy gydol cylchred y bilsen). Yn sgil y ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o brofion sydd wedi cael eu cynnal, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod unrhyw fanteision penodol yn perthyn i COC amryw-weddol o’i gymharu â COC monoffasig. Mae'r FSRH yn argymell monoffasig yn y lle cyntaf.
Mae COC sy’n cynnwys estradiol, gyda strwythur sydd yn union yr un fath ag estrogen dynol, ar gael, ond mae'r dystiolaeth ynglŷn â’i ddiogelwch yn gyfyngedig o’i gymharu â COC gydag ethinylestradiol.
Mae CHC nad yw’n cael ei gymryd drwy’r geg yn cynnwys y clwt trawsgroenol cyfunol (CTP) a modrwy yn y wain gyfunol (CVR). Mae’r CTP yn rhyddhau 33.9 ug EE a 203ug o norelgestromin/24 awr ar gyfartaledd, tra bo’r CVR yn rhyddhau 15ug EE a 120ug etonogestrel/24 awr. Mae'r ddau’n cael eu cynnig i gleifion sy'n dymuno aros ar CHC ond sy’n cael anhawster ag amsugniad (e.e. cyflyrau’r coluddyn).