Hanes ac Archwiliad Meddygol ar gyfer Poen yn y Pen-glin

Gall yr hanes fod yn gysylltiedig â phoen wrth wneud gweithgareddau ysgwyddo pwysau, anhyblygrwydd boreol sydd fel arfer yn para llai na 30 munud, pyliau o grychu yn y ben-glin. Oherwydd bod poen pengliniau yn aml yn gysylltiedig â’r cymal pateloffemorol, gall gweithgareddau megis dringo grisiau sydd yn golygu plygu’r pengliniau, fod yn anodd neu’n boenus. Dylai asesiad gynnwys camaliniad falgws neu fargws fyddai’n rhagfynegi OA adrannol radiograffeg, a dadansoddiad o gerddediad er mwyn asesu ar gyfer cloffni neu gerddediad araf.

Radiograffau ysgwyddo pwysau yw’r delweddu a ffafrir ar gyfer diagnosio OA tra bod MRI yn ddefnyddiol ar gyfer diagnosio rhwygiadau mensicol neu symptomau mecanyddol. Isod rhestrir profion orthopaedig penodol ar gyfer cyflyrau pen-glin.

Prawf McMurrays

Mae’r claf yn gorwedd ar wastad ei gefn a’r pengliniau wedi eu plygu’n gyfan gwbl (y sawdl at y ffolennau). Yna bydd yr archwiliwr yn cylchdroi’r tibia yn fedialaidd. Os bydd yna ddarn rhydd o’r meniscws medial, bydd y symudiad yma yn achosi snap neu glic sydd yn aml yn cael ei ategu gan boen. Drwy newid maint y plygiant dro ar ôl tro, gall yr archwiliwr brofi holl elfennau ôl y meniscws. Nid yw’n hawdd profi hanner anterior y meniscws oherwydd nad yw’r pwysau ar y meniscws mor fawr. Er mwyn profi’r meniscws medial, bydd yr archwiliwr yn perfformio’r un symudiadau gyda’r ben-glin wedi ei chylchdroi’n ochrol.

Profion tynnu anterior ac ôl

Mae’r arwydd tynnu yn brawf ar gyfer ansefydlogrwydd un anterior gwastad ac un rhan ôl gwastad. Yr anhawster gyda’r prawf yma yw penderfynu ar y man cychwyn niwtral os bydd y gewynnau wedi eu hanafu. Bydd pen-glin y claf wedi ei phlygu ar 90°, a’r glun wedi ei phlygu ar 45°. Fel hyn mae’r gewyn coesffurf anterior bron yn gyfochrog â’r gwastadedd tibial. Mae troed y claf yn cael ei dal ar y bwrdd gan gorff yr archwiliwr a’r archwiliwr yn eistedd ar flaen troed y claf gyda’r droed yn y safle niwtral. Gosodir dwylo’r archwiliwr o gwmpas y tibia ac fe'i tynnir ymlaen ar y ffemwr. Y symudiad arferol ddylai ddigwydd yw tua 6mm. Ond os bydd y tibia yn symud ymlaen mwy na 6mm, fallai bod y gewyn coesffurf anterior wedi cael ei anafu i ryw raddau. Hefyd gellir profi’r gewyn coesffurf ôl mewn modd gyffelyb, ond y tro yma  mae’r tibia yn cael ei wthio’n ôl mewn perthynas â’r ffemwr.

Profi straen gewynnau medial ac ochrog cyfochrog

Mae’r prawf falgws yn asesiad ar gyfer ansefydlogrwydd medial gwastadedd unigol, sydd yn golygu bod y tibia yn symud oddi wrth y ffemwr h.y. bylchau ar yr ochr fedial. Bydd yr archwiliwr yn rhoi straen falgws (yn gwthio’r pen-glin yn fedial) ar y pen-glin tra bod y ffêr yn cael ei sefydlogi gydag ychydig o gylchdro ochrol naill ai gyda’r llaw neu drwy ddal y goes rhwng braich a bôn braich yr archwiliwr. I ddechrau bydd y pen-glin wedi ei hymestyn yn llawn ac yna caff ei phlygu rhywfaint fel ei bod yn cael ei datgloi (20° i 30°). Os bydd y prawf yn gadarnhaol (h.y. bod y tibia yn symud gormod oddi wrth y ffemwr pan roddir straen falgws) pan fo’r pen-glin wedi ei hymestyn, efallai bod y gewyn coesffurf medial wedi cael ei hanafu i ryw raddau. Yna os defnyddir straen farws yn yr un modd, efallai y gellir profi uniondeb y gewyn ochrog cyfochrog yn yr un modd.

Isod ceir tabl o gyflyrau pengliniau cyffredin (gweler Tabl 5) y dylid eu hystyried mewn perthynas â diagnosisau gwahanol o OA pengliniau a’r nodweddion sydd yn gwahaniaethu’r rhain ag OA. 

Tabl 5: Cyflyrau Pengliniau Cyffredin, Cyflwyniadau a Chanfyddiadau
Amodau Nodweddion yn ôl hanes Nodweddion ar ôl archwiliad corfforol Nodweddion labordy a radiograffeg
Arthritis llidiog cronig yn cynnwys arthritis rhiwmatoid Anhyblygrwydd boreaol amlwg, effaith ar gymalau eraill (cymesurol) Cymalau eraill wedi chwyddo neu’n ddolurus, anffurfio dwylo ESR cynyddol, hylif synofaidd llidiog, erydiadau ar radiograffau
Gowt neu ffug gowt (chondrocalcinosis, CPPD) Effaith ar gymalau eraill, yn arbennig y bawd troed (yn achos gowt), arddyrnau neu ysgwyddau (ffug gowt) Cymalau eraill wedi chwyddo neu’n ddolurus. Hylif synofaidd llidiog yn cynnwys crisialau, efallai y bydd radiograffau yn dangos calch condrocalsiffig (CPPD)
Arthritis y cluniau Poen yn y morddwyd, trocanterig neu’r ffolennau, neu dim ond poen pen-glin anterior mewn rhai achosion Poen wrth blygu’r clun a chylchdro mewnol; Dolurus wrth wegian mewn prawf Trendelenburg Radiograff clun annormal
Chondromalacia patela Dechrau yn gymharol ifanc; symptomau pen-glin anterior yn fwyaf amlwg (poen wrth ben-glinio , mynd fyny grisiau, cyrcydu) Dolurus dros y cymal pateloffemorol yn unig, poen gyda phwysau patela (ataliad, prawf crensian) Radiograff normal neu anghysondeb patela.
Anserin bwrsitis Poen pengliniau anteromedial Dolurus ar ben pellaf y pen-glin dros y tibia medial. Radiograff normal
Trochanteric bwrsitis Poen clun ochrol, yn arbennig yn ystod y nos Dolurus yn ardal y glun ochrol Radiograff normal
Syndrom band iliobitiol Poen clun ochrol, yn ymestyn i’r pen-glin ochrol Dolurus ac anhyblygrwydd yn y band iliotibiol Radiograff normal
Rhwyg mensicol symptom mecanyddol amlwg (e.e. cloi neu grychu) Dolurus dros linell y cymal; prawf McMurray cadarnhaol Rhwyg meniscol ar MRI, radiograffau normal
Tiwmor yn y cymal Poen nosweithiol neu barhaol   Hylif synofaidd gwaedlyd ac annormaledd o bosibl ar belydr-x

(Cianflocco 2011)

Adnodd defnyddiol:

Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael ar y dudalen hon a phenodau dilynol am y modiwl Cymell i Symud.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau