Triniaeth ffarmacolegol
Fel arfer nid yw symptomau echddygol yn cael eu trin gyda meddyginiaeth nes bod y symptomau yn amharu’n sylweddol ar weithgareddau o ddydd i ddydd, nid yw meddyginiaeth yn atal y clefyd rhag cynyddu, ond mae’n gwella ansawdd bywyd. Y prif deulu o gyffuriau yw lefodopa (fel arfer yn gyfun ag atalydd dopa decarbocsylas neu atalydd COMT), agnostigau dopamin ac atalyddion MAO. Ymysg yr henoed gall yr holl gyffuriau yma achosi dryswch a dylid cymryd gofal penodol er mwyn dechrau ar ddosau isel a chynyddu’n raddol. Gall rhoi’r gorau yn ddisymwth i gymryd cyffuriau gwrth barkinsonaidd achosi syndrom malaen niwroleptig. Mae tua 5-10% o’r cleifion yn ymateb yn wael i driniaeth gyda chyffuriau.
Oherwydd yr amrywiaeth eang mewn cleifion PD, gall y dewis cychwynnol o gyffur amrywio o un unigolyn i’r llall. I rai gall y cyffur a ddewisir gyntaf fod yn baratoad lefodopa, tra rhagnodir agonydd neu gyffur gwrthgolergenig/MAO-B i unigolion eraill efallai. Mae angen ystyried ffactorau megis oedran, symptomau a gyflwynir a materion iechyd cydredol wrth werthuso pa feddyginiaethau sydd orau ar gyfer pob unigolyn.
Tybir bod Amnewidyn Dopamin yn niwroamddiffynol
Mae (L-Dopa) wedi cael ei ddefnyddio am dros 40 mlynedd. Dyma’r cyffur mwyaf effeithiol ar gyfer trin PD. Mae’n gysylltiedig â llai o forbidrwydd, mae’n cael ei ragnodi i’r rhan fwyaf o’r cleifion sydd â’r cyflwr ar ryw adeg, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â thriniaethau eraill. (9)
Mae L-Dopa angen yr ensym dopa decarbocsylas er mwyn ei droi’n ddopamin
Dim ond 5-10% o L-Dopa sydd yn croesi rhwystr gwaed yr ymennydd.
Mae’r 90-95% o’r L-Dopa sydd ar ôl, nad yw’n croesi rhwystr gwaed yr ymennydd, yn aml yn cael ei fetaboleiddio i ddopamin mewn mannau eraill, gan achosi sgil effeithiau perifferol megis cyfog, anystwythder yn y cymalau a dyscinesia (gwingo anwirfoddol). Mae sgil effeithiau eraill yn cynnwys teimlo’n gysglyd yn ystod y dydd ac anhwylder rheoli symbyliad.
Mae carbidopa a benserasid yn atalyddion dopa decarbocsylas ymylol; maent yn helpu i atal L-DOPA rhag metaboli cyn iddo gyrraedd y niwronau dopaminergaidd, ac felly mae’n lleihau sgil effeithiau ac yn cynyddu bioargaeledd, ac mae angen dos llai o lefodopa er mwyn trin y symptomau. Yn gyffredinol maent yn cael eu rhoi fel paratoadau yn gyfun â lefodopa;
- Carbidopa gyda lefodopa (co-careldopa) = SINEMET . Ar y cychwyn dylid dechrau gyda’r dos effeithiol isaf sydd yn cynnal gweithrediad da e.e. 62.5 mg tds (ar adeg prydau bwyd) gan gynyddu i 125 mg ar ôl pythefnos.
- Benserasid gyda lefodopa (co-beneldopa) = MADOPAR.
Ar y cychwyn gellir oedi triniaeth L-Dopa drwy ddefnyddio gweithyddion dopamin ac atalyddion MAO-B yn y gobaith o arafu cychwyniad dyscinesia;
Gweithyddion Dopamin; mae triniaeth gychwynnol gydag gweithydd yn effeithiol wrth drin nodweddion echddygol. Mae yna lai o ddyscinesia hirdymor ac amrywiadau echddygol nag gyda L-Dopa. Ond mae sgil effeithiau acíwt yn fwy cyffredin, er bod y rhain yn cilio ymhen ychydig ddyddiau i wythnosau. Argymhellir eu defnyddio mewn cleifion iau ac yn yng nghyfnod cynnar y clefyd. Gall parhau i ddefnyddio monotherapi gweithydd dopamin am fwy na blwyddyn arwain at sgil effeithiau sylweddol (seiciatrig) ac yn y pen draw bydd angen lefodopa.
Hefyd gellir defnyddio gweithydd dopamin fel atodiad i lefodopa er mwyn lleihau’r “amser i ffwrdd” a gwella nam echddygol mewn cleifion sydd yn ymateb yn amrywiol i lefodopa.
Paratoadau agnosit nad ydynt yn deillio o ergot yw pramipecsol, ropinirol a rotigotin
Mae paratoadau trawsgroenol gweithydd sy’n deillio o ergot angen gweithrediad arennol, ESR a CXR cyn triniaeth, a hynny’n cael ei ailadrodd yn flynyddol. Prin iawn y’u defnyddir oherwydd y risg o adweithiadau ffibrotig. Y cyffuriau yma yw bromocriptin, cabergolin, liswrid a pergolid
Mae Atalyddion MAO-B (y tybir ei fod yn niwroamddiffynol) yn atal lefodopa rhag dadelfennu yn yr ymennydd.
Gall selegelin a ddefnyddir ar ei ben ei hun oedi’r angen am therapi lefodopa. Mae fformiwleiddiad datgyfannu drwy’r geg (Zlopar) yn cynyddu bioargaeledd a gellir rhoi dosau is ohono na selegilin confensiynol, gydag effeithiau clinigol cyffelyb, a gall hynny fod yn arbennig o ddefnyddiol i gleifion sydd yn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol ar ôl triniaeth gychwynnol gyda selegilin confensiynol sydd yn dioddef ag anawsterau llyncu.
Rasagiline MAO-BI mwy diweddar
Mae Atalyddion COMT (atalyddion catecol-o-methyltransferas)yn atal lefodopa rhag dadelfennu’n ymylol, gan alluogi i fwy o L-Dopa gyrraedd yr ymennydd. Mae’r grŵp yma yn cynnwys Entacapone a Tolcapone
Mae Cyffuriau Gwrthmwscarinig yn lleihau cryndod ac anhyblygrwydd mewn PD idiopathig, ond nid bradycinesia. Maent yn cael eu defnyddio’n fwy helaeth gyda pharkinsoniaeth a achosir gan gyffuriau. Y paratoadau cyffuriau yw procyclidin ac orffenadrin.