Myfyrio ar gofnodion DPP

Rhan annatod o deitl y gweithgaredd yma yw’r syniad bod gweithwyr proffesiynol yn ymrwymedig i broses o ddysgu gydol gyrfa sydd wedi ei deilwra ar gyfer y rôl maent wedi ei ddewis.  Mae’r wireb ‘mae’r llawfeddyg da yn gwybod sut mae rhoi llawdriniaeth ond mae’r llawfeddyg rhagorol yn gwybod pryd mae rhoi llawdriniaeth’ yn ein hatgoffa bod agweddau technegol ein proffesiwn yn bwysig, ond gall myfyrio gweithgar fod yn ddylanwadol. Mae’n ymddangos bod rôl myfyrio yn rhan annatod o “wneud y peth iawn, ar yr adeg iawn am y rhesymau iawn”. Mae myfyrdod yn ofynnol gan y GMC sydd yn rhoi cyfarwyddyd i chi i ‘beidio dim ond casglu’ gwybodaeth, a hyrwyddir hynny mewn safleoedd gwerthuso gyda chwestiynau megis:

‘Beth yw wedi ei ddysgu?’

‘Pa newidiadau wyf wedi eu gwneud?’

‘Beth alla i ei wneud yn wahanol?’

‘…mae gweithredu priodol yn well na gwybodaeth, ond er mwyn gwneud yr hyn sydd yn iawn mae’n rhaid i ni wybod beth sydd yn iawn’ - Carl Fawr, Brenin y Lombardiaid a’r Ffranciaid

Enghraifft glinigol: 

Myfyriwr deintyddol sydd yn dysgu i adnabod arwyddion pydredd deintyddol wrth archwilio neu mewn pelydr-x deintyddol.  Wrth ateb y cwestiynau 'beth’ a ofynnir, mae’r myfyriwr sylwgar yn dysgu bod triniaeth yn golygu tynnu drwy ddrilio’r daint sy’n pydru a llenwi’r twll yn sgiliedig gyda llenwad amalgam a ddewisir yn briodol.  Ond mae’r myfyriwr sylwgar yn gofyn ‘pam’, yn holi am fanteision ac anfanteision y dull yma, yr effeithiau niweidiol posibl a phosibiliadau cymryd camau eraill.  Efallai y bydd yn dysgu am ddeunyddiau eraill a ddefnyddir yn rhywle arall ac arloesedd sydd yn deillio o waith ymchwil.  Yn y pen draw bydd yn sylweddoli y bydd ei gleifion yn elwa o drafodaeth fwy trwyadl am yr opsiynau triniaeth sydd ar gael.   

Cliciwch yma i weld ciplun o gofnod MARS sydd yn adlewyrchu’r enghraifft uchod.

Arfau myfyrio: Ar ôl gofyn cwestiynau ‘beth’, gofynnwch ‘beth felly’ neu ‘beth nawr’ neu’n bwysicaf oll ‘pam’.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau