Cymysgedd o sgiliau practis

Mae gan bob practis unigolion sydd â sgiliau; mae’r gymysgedd o’r rhain yn cyfrannu at redeg y practis yn effeithlon. Nid yw’n ddichonadwy i bob meddyg teulu feddu ar lefel sgiliau uchel yn mhob maes, ac oherwydd hynny gall fod yn ddefnyddiol cynllunio’r cymysgedd o sgiliau sydd yn bodoli yn y practis. Gall y gymysgedd o sgiliau roi mwy neu lai o bwysau ar PDP unigolyn. Mae’r templed isod yn galluogi i’r practis edrych ar sgiliau y bydd efallai eu hangen er mwyn darparu gwasanaeth da/gwell, ac mae’r templed myfyriol yn rhoi cyfle i’r unigolyn archwilio eu sgiliau a’u hanghenion unigol i’r dyfodol. Nid yw’r templed yn gyflawn a dylai’r practis nodi’r sgiliau sydd eu hangen yn eu hardal eu hunain (e.e. nid yw rhannu moddion yn gymwys i bob practis)

Gellir lawrlwytho templed yma.

Example

Sgil Pwy sydd yn meddu ar y sgil hwnnw? A yw hon yn ddarpariaeth ddigonol? Anghenion hyfforddi (ar gyfer pwy?)
Goruchwylio iechyd plant Dr A, Dr B a 2 ymwelydd iechyd Ydi, mae’r clinig yn cael ei rannu rhwng y ddau feddyg a’r ymwelwyr iechyd, a dim ond unwaith rydym wedi orfod canslo’r clinig oherwydd absenoldeb y ddau bartner. Aeth Dr A gwrs18 mis yn ôl. Mae Dr B angen mynd ar gwrs diweddaru. Mae’r ddau ymwelydd iechyd yn cael hyfforddiant blynyddol gan yr ymddiriedolaeth
Mân lawdriniaethau Dr C ac i ryw raddau Dr D Efallai ddim, Dr C sydd yn gwneud y rhan helaeth o fân lawdriniaethau, ac oherwydd hynny mae ganddo restr aros o 2 fis ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Mae’r triniaethau (taliad) yn cael ei gapio gan y LHB, felly ni fyddai ymestyn ein darpariaeth yn cynyddu incwm. Mae hyfforddiant Dr C yn gyfredol, byddai Dr D yn dymuno ehangu ei sgiliau a bydd yn mynychu cwrs diweddaru ymhen 2 fis a bydd yn cael peth hyfforddiant mewnol gan Dr C.
Gosod IUD Dr D a Dr A Ydi, mwy na digon mae’n debyg - mae pob partner yn gosod 10-12 bob blwyddyn sydd yn ddigon i gynnal sgiliau. Ddim ar hyn o bryd
Cytoleg Prif Nyrs A Prif Nyrs B Dr A, C, D ac E Ydi, mae’n ddigonol mae’n debyg. Roedd Dr B yn arfer perfformio profion ceg y groth ond nid yw wedi cael hyfforddiant cytoleg hylif. Na, mae Dr B yn hapus i beidio â chymryd cytoleg
Gwiriad diabetes blynyddol Dr E a Phrif Nyrs B Ddim yn ddigon i ymdopi â’r swm. Mae Prif Nyrs B yn cael ei llethu gan wiriadau blynyddol ac nid yw’n bosibl i Dr E weld yr holl gleifion ei hun. Mae angen gwerthuso strwythur gofal diabetig y practis ac mae Dr E, Prif Nyrs B a Dr A wedi cytuno i edrych ar hyn a nodi newidiadau strwythurol ac anghenion hyfforddi.
Ychwanegwch sgiliau eraill isod      

Trosolwg o anghenion hyfforddiant y practis

Angen Sut fydd yr angen yn cael ei fodloni Cwblhawyd Unrhyw newid?
Mae Dr B angen mynd ar gwrs diweddaru Iechyd Plant Mae cwrs lleol yn cael ei gynnal yn flynyddol (y cwrs nesaf wedi ei fwcio, ond ni fydd am 4 mis arall)    
Bydd Dr D yn mynychu cwrs diweddaru mewn Mân lawdriniaethau Diweddaru mân lawdriniaethau mewn canolfan ôl-radd leol Cwblhawyd 23 Mehefinrd June Bydd Dr D nawr yn cael 3 i 4 o sesiynau dan oruchwyliaeth gyda Dr C a bydd yn cymryd mwy o rôl yn y practis
Gofal diabetes Yn destun archwiliad ar hyn o bryd gan Dr E, A a Phrif Nyrs B    

Os yw eich practis wedi cwblhau y templed uchod efallai y byddwch yn dymuno archwilio eich rôl a blaenoriaethau hyfforddiant posibl i’r dyfodol drwy ddefnyddio’r templed yma. 

Enghraifft

A wyf yn meddu ar sgiliau penodol neu a wyf yn gyfrifol am faes gwaith penodol yn y practis? Rwyf yn cynnal clinigau iechyd plant unwaith bob pythefnos ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant yn ystod y 18 mis diwethaf. Rwyf yn ffitio IUD ac yn cymryd cytoleg, mae gen i ddiddordeb mewn cardioleg ond nid wyf yn perfformio rôl benodol yn y practis. Rwyf ar fin ymwneud â gofal diabetig.
A oes yna fylchau yng nghymysgedd sgiliau y practis yr wyf angen hyfforddiant er mwyn gallu eu llenwi? Bydd angen i mi ddiweddaru fy ngofal diabetig pan fyddaf yn symud i mewn i helpu i gynnal y clinig adolygu blynyddol. Rwyf yn hyderus ynghylch ataliaeth cardiaidd, ond yn llai hyderus o ran archwilio corfforol - y llygaid yn benodol. Rwyf hefyd yn llai cyfarwydd â’r cyfryngau glycaemig newydd drwy’r geg.
Beth yw’r anghenion hyfforddi hynny ac ym mha ffordd mae eu bodloni? Rwyf yn credu bod angen i mi edrych ar elfennau gwiriad blynyddol a pha archwiliadau fyddaf yn eu perfformio, ac a oes yna eraill yn y tîm (estynedig) mewn lle gwell - er enghraifft rwyf yn rhydlyd o ran archwilio ffwndi, ond erbyn hyn mae pawb diabetig yn cael ffotograffiaeth retinol blynyddol - felly a oes angen y sgil yma arnaf? Yn sicr rwyf angen diweddaru fy ngwybodaeth am gyfryngau glycaemig drwy’r geg ac inswlin. Byddaf yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd - mae yna gwrs diabetig sydd yn cael ei gynnal yn eithaf rheolaidd yn lleol, a bydd yna elfen o ddarllen personol, ond rwyf hefyd yn bwriadu ysgrifennu ychydig o hanes achosion a’u trafod gyda Dr E.
A oes yna unrhyw feysydd yr hoffech eu datblygu (hyd yn oed os yw’n faes nad yw’r practis angen mwy o ddarpariaeth) Buaswn yn hoffi gwneud ychydig o fân lawdriniaethau ac rwyf am fynychu cwrs ymarferol, byddaf mae’n debyg yn cyfyngu fy hun i driniaethau llai, ond mae gen i ddiddordeb yn hyn (efallai y flwyddyn nesaf)

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau