Myfyrio ar ragnodi

Ceisiwch feddwl am gyffur yr ydych wedi ei ragnodi am y tro cyntaf neu yr ydych yn ei ragnodi yn anaml, gellir lawrlwytho templed ar gyfer yr ymarferiad hwn yma.

Enghraifft

Ceisiwch feddwl am gyffur yr ydych wedi ei ragnodi am y tro cyntaf neu yr ydych yn ei ragnodi yn anaml

Enw’r cyffur

Dapagliflozin

Modd gweithredu

Triniaeth newydd drwy’r geg a gyfer diabetes math 1 neu 2 - gweithio ar y llwybr arennol er mwyn atal SGLT2. Mae SGLT2 yn atsugno glwcos o’r tibylau arennol. Mae atal hynn yn fwriadol yn achosi mwy o glycoswria - sydd yn cadw glwcos y gwaed i lawr, gan golli calorïau. Mae’n cymryd ychydig o ddŵr gydag ef, ond roedd gwacau ond yn cynyddu gyda 1.5 y dydd arall, ond mae yna fwy o UTI a llindag. Gall y dŵr ychwanegol a gollir help i ostwng BP.

Pam y gwnaethoch chi ddewis y cyffur yma?

Mae gen i rai cleifion sydd wedi cyrraedd uchafswm therapi metfformin, gliclaxide a gliptin drwy’r geg. Ond mae eu HbA1c wedi aros yn ddyrchafedig ac nid ydynt eisiau cael eu hatgyfeirio am ofal ysbyty o gwbl na meddyginiaethau a chwistrellir efallai.

Beth oeddwn yn ceisio ei gyflawni ar gyfer y claf yma?

Mae’r claf penodol dan sylw yn ddyn 65 oed y mae ei ddiabetes wedi dod yn gynyddol anoddach i’w reoli ar gyfuniad o metfformin a gliclazide a gliptin, ac oherwydd ei fod wedi cael diabetes am fwy na 10 mlynedd, mae’n debygol bod ganddo rhyw lefel o ischaemia myocardiol, felly mae pioglitazone yn ddewis sydd yn achosi gormod o risg. Byddai teithio i’r ysbyty yn anodd iawn iddo fel trychiedig sydd â phroblemau symudedd a dim gofalwyr ganddo. Mae’n debyg bod ei opsiynau wedi ei cyfyngu i weithydd GLP-1 neu therapi inswlin. Rwyf yn gobeithio gweld gwell rheolaeth glycaemig a gostyngiad yn ei Hba1c o’r 8.8% presennol i rywbeth sydd yn agosach i 8 neu’n is.

Ai dyma’r cyffur mwyaf effeithiol yn y sefyllfa yma?

O ystyried mai glitazone yw’r unig opsiwn gofal sylfaenol arall, ac nad yw eisiau cael ei atgyfeirio, a bod yna bosibilrwydd o gyflawni HbA1c sydd yn agos i fod yn optimaidd - ie.

Pwyntiau dysgu neu newidiadau a wnaethpwyd

O ddarllen am dapagliflozin rwyf wedi dysgu na ddylid ei ddefnyddio mewn cleifion dros 75 oed, mewn rhai sydd ar ddiwretigion dolen neu gyffuriau disbyddu cyfaint a rhai sydd ag eGFR 0 >60 (nad yw’n anghyffredin yn achos fy nghleifion diabetig, felly bydd y defnydd ohono yn cael ei gyfyngu). Byddaf yn rhybuddio cleifion ynghylch sgil effeithiau megis risg uwch o hypos os cymerir gliclazide a phosibilrwydd o UTI. Rwyf wedi gweld meddygon ymgynghorol mewn ysbytai yn defnyddio’r cyffur yma, ac ar ôl trafodaeth mewn cyfarfod addysgol diweddar, maent yn hapus i feddygon teulu i ddechrau ei ddefnyddio.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau