Materion seicolegol

Gwasanaethau

Yn 2013 cyhoeddodd Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol (IAPT), un o gyrff y GIG yn Lloegr, 'Veterans: Positive Practice Guide'. Roedd hwn yn amlygu anghenion amrywiol Cyn-filwyr o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y materion yma ac wedi cefnogi sefydlu GIG Cymru i Gyn-filwyr.  

Prif nod y gwasanaeth yw gwella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo bron i £0.5m bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy. Mae gan y cyfarwyddwr, Yr Athro Jonathan Bisson, brofiad helaeth o Seiciatreg Milwrol ac Anhwylderau Straen trawmatig, fel clinigwr ac ymchwilydd. Mae’n ymwneud ag asesu a rheoli cyn-filwyr, yn cynnig cymorth a goruchwyliaeth i’r Prif Glinigwr ac yn goruchwylio sut mae’r gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei redeg. Roedd Jonathan yn Uwchgapten yng Ngwasanaeth Meddygol y Fyddin Brydeinig cyn ymuno â’r GIG.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal fel model canolfan a  lloerennau. Mae’r ganolfan yng Nghaerdydd a’r Dr Neil Kitchiner sydd yn gyfrifol am redeg GIG Cymru i Gyn-filwyr o ddydd i ddydd, yn cynnwys goruchwyliaeth glinigol a hyfforddi’r wyth o therapyddion cyn-filwyr. Mae hefyd yn cynnal asesiadau, a therapi seicolegol cryno pan fo’n briodol (16 sesiwn) ac apwyntiadau dilynol. Ar hyn o bryd mae Neil yn gwasanaethu fel capten yn Ysbyty Maes 203 Canolfan TA, Gogledd Llandaf, Caerdydd. 

Mae’r saith therapydd cyn-filwyr eraill wedi eu lleoli o gwmpas Cymru er mwyn cynnig gwasanaethau mor agos i gartref y cleient â phosibl. Mae cyn-filwyr sydd yn byw yng Nghymru yn gallu cyfeirio eu hunain drwy gwblhau’r ffurflen ar y wefan. Derbynnir hunan gyfeiriadau dros y ffôn neu e-bost, ac atgyfeiriadau gan feddygon teulu neu unrhyw un arall sydd yn ymwneud â’u gofal clinigol.

Mae canllawiau ymarfer cadarnhaol Cyn-filwyr IAPT yn cydnabod nifer o ffactorau allai fod yn rhwystrau i Gyn-filwyr rhag derbyn gwasanaethau iechyd meddwl priodol:-

  • Gall lefelau uchel o allgau cymdeithasol olygu nad yw rhai cyn-filwyr yn cofrestru gyda meddyg teulu, ac oherwydd hynny mae ganddynt lai o fynediad at ofal iechyd. Byddai hyrwyddo llwybrau hunangyfeirio a derbyn atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan elusennau cyn-filwyr i wasanaethau IAPT yn ddull gwerthfawr o oresgyn y rhwystr yma i gyn-filwyr sydd heb fynediad at feddyg teulu.
  • Gall credoau ac ymddygiadau cyn-filwyr eu hatal rhag derbyn therapïau seicolegol, megis:  
  • credu bod problemau iechyd meddwl yn codi cywilydd, gan guddio symptomau yn fwriadol oddi wrth weithwyr iechyd proffesiynol;  
  • credu na fydd gweithwyr iechyd y GIG yn eu deall nac yn deall eu hanes o wasanaethu 
  • credu y bydd yr ymdrech, stigma a chywilydd yn drech na’r buddion o ganlyniad i ofyn am help a’i dderbyn; 
  • defnyddio alcohol fel hunanfeddyginiaeth er mwyn cuddio eu tymer neu broblemau, ac yn eu rhwystro rhag cael eu canfod; 
  • credu yn anghywir nad yw therapïau seicolegol yn effeithiol i Gyn-filwyr 
  • dadrithiad o ganlyniad i brofiad o wasanaethau iechyd meddwl yn y fyddin neu’r GIG 
  • cael anhawster cael mynediad at wasanaethau iechyd cyffredinol i ddechrau (sydd yn arbennig o berthnasol i gyn-filwyr sydd wedi eu hallgau’n gymdeithasol)

Gall meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill atal cyn-filwyr yn anfwriadol rhag cael mynediad at wasanaethau therapi seicolegol oherwydd: 

  • nad ydynt yn deall bod gan Gyn-filwyr anghenion penodol efallai o ganlyniad i ddiwylliannau milwrol yn y gorffennol 
  • bod ganddynt gyfyngiadau amser yn eu meddygfeydd sydd yn lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn diagnosio problemau iechyd meddwl cyn-filwyr yn effeithiol 
  • byddant yn adnabod symptomau iselder neu anhwylderau gorbryder, ond yn methu ag adnabod y gellir eu trin gyda therapïau seicolegol; 
  • maent yn credu yn anghywir nad yw therapïau seicolegol yn effeithiol i Gyn-filwyr; 
  • maent yn credu bod trin unrhyw broblemau iechyd corfforol yn haeddu mwy o flaenoriaeth na thrin problemau iechyd meddwl ac o ganlyniad i hynny nid ydynt yn atgyfeirio at wasanaethau therapi seicolegol. 
  • gall gwasanaethau iechyd meddwl yn anfwriadol atal Cyn-filwyr rhag cael mynediad at wasanaethau sydd yn darparu therapïau seicolegol oherwydd: 
  • nid oes ganddynt ddigon o hyder wrth weithio gyda Chyn-filwyr 
  • efallai eu bod yn pryderu y gall Cyn-filwyr fod yn dreisgar  
  • maent yn pryderu am eu gallu neu eu sgiliau i feithrin perthynas therapiwtig gyda Chyn-filwyr

Sefydlwyd GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn helpu i oresgyn rhai o’r anawsterau yma. Mae’r gwasanaeth wedi ei leoli o fewn Gwasanaethau’r GIG a Gofal Cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli, ac mae wedi ei integreiddio’n llawn â’r gwasanaethau ac asiantaethau eraill sydd yn gofalu am iechyd ac anghenion cymdeithasol cyn-filwyr. Mae’r gwasanaeth yn un rhan o lwybr lles i gyn-filwyr ac mae’n mabwysiadu dull gofal fesul cam er mwyn sicrhau bod yr asiantaeth mwyaf priodol yn  mynd i’r afael ag anghenion cyn-filwyr.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau