Crynodeb a dolenni

Mae’r rhan fwyaf o gyn-filwyr yn cael eu rhyddhau o wasanaeth yn ffit ac iach a byddant yn cymhathu’n dda i’r gymuned sifiliaid. Mae yna grŵp bach ond arwyddocaol fydd â phroblemau cymhleth allai achosi goblygiadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol. Efallai y bydd cyn-filwyr yn dewis peidio â chael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ac efallai byddant yn cuddio symptomau seicolegol. Mae ganddynt hawl i dderbyn triniaeth flaenoriaethol gan y GIG, a dylai’r rhai sydd ag anafiadau difrifol gael pecyn gofal yn ei le pan gânt eu rhyddhau.

Gall symptomau seicolegol fod yn gymhleth, gyda cydafiacheddau lluosog. Gall y Gwasanaeth GIG i Gyn-filwyr gynnig asesiadau lleol a chydlynu gofal.

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

 

Dolenni Defnyddiol

Rydym yn helpu cyn-filwyr gwrywaidd a benywaidd i fyw bywydau annibynnol a llawn drwy eu cefnogi gyda’n arbenigedd, profiad ac ystod llawn o wasanaethau. Rydym yn rhoi cymorth y mae ei wir angen ar gyn-filwyr er mwyn addasu i golli golwg, goresgyn heriau cysylltiedig â bod yn ddall, a mwynhau bywyd bob dydd. Mae ein helusen wedi bod yn cynnig cymorth corfforol ac emosiynol i aelodau ein lluoedd arfog sydd â nam ar y golwg ers 1915. 
BLESMA (British Limbless Ex Service Men's Association) yw’r elusen genedlaethol ar gyfer milwyr a chyn-filwyr sydd wedi colli aelodau, a’u dibynyddion a’u gweddwon. Dyma’r elusen sydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i’n holl gyn-filwyr sydd wedi colli aelodau, y defnydd o aelodau neu lygaid neu olwg o un llygaid wrth wasanaethu ein gwlad, ac rydym yma i bob un pryd bynnag eu bod ein hangen am weddill eu bywydau.  
Mae Combat Stress yn darparu triniaeth a chymorth penodol i Gyn-filwyr sydd â chyflyrau megis Anhwylder straen ôl drawma (PTSD), iselder ac anhwylderau gorbryder. Mae ein gwasanaethau am ddim i Gyn-filwyr. 
Mae Rhaglen Iechyd Meddwl y Lluoedd Wrth Gefn, gaiff ei chynnal mewn partneriaeth â’r GIG, yn agored i bobl aelod presennol a chyn aelodau Lluoedd Gwirfoddol a Lluoedd Wrth Gefn y DU sydd wedi cael eu dadfyddino ers 1 Ionawr 2003, ar ôl cael eu lleoli dramor fel lluoedd wrth gefn ac y credir y gallai eu lleoli fod wedi effeithio ar eu iechyd meddwl.

Partneriaeth Pontio Gyrfa (CTP) yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda Right Management. Gall pawb sydd yn gadael gwasanaeth y Llynges Frenhinol, y Fyddin, Y Llu Awyr Brenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol elwa o gymorth adsefydlu, cyngor ar bontio gyrfa a chyfleoedd hyfforddiant. 

 

GIG Cymru i Gyn-filwyr. Prif nod y gwasanaeth yw gwella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr yng Nghymru sydd ag anafiadau cysylltiedig â gwasanaethu.

 

What is Veterans - UK yw enw’r wefan ar gyfer Asiantaeth Personél sy’n Gwasanaethu a Chyn-filwyr. Ar 2 Ebrill 2007, creodd y Weinyddiaeth Amddiffyn frand newydd ar gyfer gwasanaethau i gyn-filwyr - Veterans-UK.

Mae yna nifer o sefydliadau sy'n darparu help a chefnogaeth i Gyn-filwyr y DU, o'r Llywodraeth, Awdurdodau Lleol, cyrff annibynnol a'r sector elusennau. Er ei bod yn ganmoladwy bod cymaint o sefydliadau yn cynnig helpu i gyn-filwyr a’u teuluoedd, gall nifer y sefydliadau olygu weithiau ei bod yn anodd gwybod pwy y dylid cysylltu â nhw i gael cyngor ar bwnc penodol. Cyn-filwyr y DU erbyn hyn yw y man cyntaf i Gyn-filwyr droi ato.  
Y Lleng Brydeinig y prif elusen y lluoedd arfog yn y DU. Rydym yn darparu gofal ymarferol, cyngor a chymorth i aelodau sydd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr o bob oed a’u teuluoedd. 
Croeso i Changing Faces. Rydym yn elusen ar gyfer pobl a theuluoedd yr effeithir ar eu bywydau gan gyflyrau, marciau neu greithiau sydd yn newid eu hedrychiad.  
Ni yw elusen hynaf y DU ar gyfer y Lluoedd Arfog. Rydym yn darparu help ymarferol a chymorth i unrhyw un sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd erioed wedi gwasanaethu, hyd yn oed os oedd hynny ond am un diwrnod. Rydym yma ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd ble bynnag maent. 
Roedd cyn-filwyr, yn arbennig rhai a wasanaethodd yn Llynges America, wedi dod i gysylltiad diangen ag asbestos yn ystod eu gwasanaeth, ac roedd hynny yn golygu eu bod yn wynebu risg o ddatblygu mesothelioma pliwraidd. Gallwch ddysgu mwy am sut y daeth cyn-filwyr i gysylltiad ag asbestos a’r buddion all eu helpu heddiw.
Mae RCGP yn darparu cwrs Iechyd Cyn-filwyr am ddim y gellir cael mynediad ato yma.

 

Am ddim i holl Bersonél y DU sydd yn Gwasanaethu, Cyn-filwyr ac aelodau Teuluoedd.

Ewch i bigwhitewall.com i ymuno â’n cymuned cefnogol a dienw heddiw.

Ar gael 24/7

Mae Walking With The Wounded yn cefnogi llwybr ar gyfer cyn-filwyr sydd yn agored i niwed i ailintegreiddio i gymdeithas a chynnal eu hannibyniaeth. Mae cyflogaeth yn greiddiol i’r daith hon.

Arbedydd Costau Busnes

Mae arbedydd costau busnes yn ganllaw ariannol a ysgrifennwyd ar gyfer cyn-filwyr

https://businesscostsaver.co.uk/guide-for-veterans/

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau