Anhwylder straen ôl drawma (PTSD)

Mae PTSD yn amrywiolyn penodol o orbryder. Efallai y bydd angen seicotherapi a/neu driniaeth ffarmacolegol penodol ac wedi ei deilwra. Mae’n datblygu yn dilyn digwyddiad neu sefyllfa sy’n peri straen o natur eithriadol o fygythiol neu gatastroffig, sydd yn debygol o achosi trallod treiddiol ym mhawb bron. Felly nid yw PTSD yn datblygu yn dilyn y sefyllfaoedd gofidus a ddisgrifir fel rhai ‘trawmatig’ mewn iaith bob dydd, er enghraifft ysgariad, colli swydd neu fethu arholiad. (NICE)

Gwelir PTSD mewn personél gweithredol ar lefelau eithaf isel (mae ffigyrau yn amrywio o 1-8% o ddata ôl-wrthdaro diweddar). Ond mae’n bosibl bod Cyn-filwyr yn ddwy waith mwy tebygol na gweddill y boblogaeth sifiliaid i ddatblygu PTSD gohiriedig. Y cyfnod mwyaf cyffredin y gwelir hynny yw yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl rhyddhau. Ymysg milwyr, a chyn droedfilwyr ifanc a sengl yn arbennig, y mae’r cyfraddau uchaf o PTSD (sydd yn gyffredin â phroblemau iechyd meddyliol a chorfforol eraill) sydd yn gysylltiedig â’u cyfraddau cymharol uchel o brofiad o ymladd agos.

Diagnosio PTSD

Mae llawlyfr diagnostig ac ystadegol anhwylderau meddyliol (DSM) yn cael ei gynhyrchu gan y Gymdeithas Seiciatrig Americanaidd. Mae’n rhestru meini prawf diagnostig ar gyfer anhwylderau meddyliol ac mae’n cael ei dderbyn yn eang ar draws y byd. 

Meini prawf diagnostig DSM ar gyfer Anhwylder Straen Ôl Drawma

  • Mae’r person wedi dioddef digwyddiad trawmatig pryd yr oedd y ddau ffactor canlynol yn bodoli:
    • Roedd y person wedi profi, gweld neu fe’i hwynebwyd â digwyddiad neu ddigwyddiadau oedd yn cynnwys bygythiad o neu wir farwolaeth neu anaf difrifol , neu fygythiad i uniondeb corfforol yr hunan neu eraill.
    • Roedd ymateb y person yn cynnwys ofn dwys, diymadferthedd, neu fraw. 
  • Mae’r digwyddiad trawmatig yn cael ei ail-fyw yn barhaus mewn un (neu ragor) o’r ffyrdd canlynol.
    • Atgofion trallodus mynych ac amharus o’r digwyddiad yn cynnwys delweddau, meddyliau neu ganfyddiadau. 
    • Breuddwydion trallodus mynych am y digwyddiad. 
    • Ymddwyn neu deimlo bod y digwyddiad trawmatig yn digwydd eto (yn cynnwys teimlad o ail-fyw’r profiad, delweddau, rhithwelediadau, ôl-fflachiadau datgysylltiol, yn cynnwys y rhai hynny sydd yn digwydd wrth ddeffro neu dan ddylanwad sylweddau). 
    • Trallod seicolegol dwys wrth ddod i gysylltiad â’r ysgogiadau mewnol neu allanol sydd yn symboleiddio neu’n debyg i elfen o’r digwyddiad trawmatig.
  • Osgoi ysgogiadau sydd yn gysylltiedig â’r trawma a merwino ymatebolrwydd cyffredinol (nad oedd yn bodoli cyn y trawma), fel y dangosir hynny gan dri neu ragor o’r canlynol:
    • Ymdrechion i osgoi meddyliau, teimladau neu sgyrsiau sydd yn gysylltiedig â’r trawma.
    • Ymdrechion i osgoi’r gweithgareddau, llefydd neu bobl sydd yn ysgogi atgofion o’r trawma.
    • Anallu i gofio elfen bwysig o’r trawma.
    • Lleihad sylweddol mewn diddordeb neu gyfranogiad mewn gweithgareddau arwyddocaol.
    • Teimladau o ddatgysylltu neu ymddieithrio oddi wrth bobl eraill.
    • Ystod cyfyngedig o deimladau (e.e. methu â chael teimladau cariadus).
    • Teimlad o ddyfodol sydd wedi ei ragfyrhau (e.e. ddim yn disgwyl cael gyrfa, priodas, plant neu oes arferol).
  • Symptomau parhaus o gynnwrf cynyddol (nad oedd yn bodoli cyn y trawma), fel y dangosir hynny gan ddau (neu ragor) o’r canlynol:
    • Anhawster disgyn i gysgu neu aros ynghwsg
    • Anniddigrwydd neu ysbeidiau o ddicter
    • Anhawster canolbwyntio
    • Hyperwyliadwriaeth
    • Ymateb brawychu chwyddedig
  • Mae cyfnod yr aflonyddwch (symptomau yn meini prawf B,C a D) yn fwy na mis.
  • Mae’r aflonyddwch yn achosi trallod clinigol arwyddocaol neu amhariad ar ffwythiannau cymdeithasol, galwedigaethol neu feysydd ffwythiannol pwysig eraill.

Gellir crynhoi hyn drwy:-

Dylid amau/diagnosio PTSD mewn pobl sydd wedi dioddef digwyddiad trawmatig sylweddol. Ar yr adeg roeddent wedi profi teimlad o ofn, diymadferthedd a braw sylweddol - ac mae ganddynt nifer o’r canlynol, os nad y cyfan:
Ailbrofi  Breuddwydion, meddyliau, ail-fyw
  O bobl, llefydd neu siarad yn fanwl am y digwyddiad
Cynnwrf Cysgu’n wael, dicer, hyper wyliadwriaeth, merwino emosiynol
Cyfnod y symptomau > 1 mis
Mae aflonyddwch yn achosi trallod sylweddol neu darfu ar ffwythiannau cymdeithasol/galwedigaethol

Combat Stress yw elusen mwyaf blaenllaw y DU sydd yn arbenigo mewn gofalu am iechyd meddwl Cyn-filwyr. Ar ei wefan mae yna nifer o straeon – mae stori Paul yn crynhoi PTSD o safbwynt yr unigolyn.

Mae yna fwy o Dystebau PTSD gan Gyn-filwyr sydd wedi cael mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr.

Trin PTSD

Mae trin PTSD yn cynnwys asesiad cynhwysfawr o anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol yr unigolyn. Dylid cynnal asesiad risg. I ddechrau dylid asesu yn y gymuned, a dylai’r meddyg teulu gydlynu’r gofal. Dylai’r meddyg teulu asesu hyd, difrifoldeb a risg o hunanladdiad. Yn aml bydd PTSD yn bodoli ar y cyd ag iselder, ac er y gall fod yna orgyffwrdd therapiwtig, yn aml ni fydd rheoli iselder yn lleddfu symptomau PTSD, ac mewn gwirionedd gall PTSD fod yn ymwrthol i driniaeth os na eir i’r afal â’r iselder cydafiachus. Mae NICE  yn argymell bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ystyried trin PTSD gyntaf mewn cleifion sydd â PTSD ac iselder, a bydd trin PTSD yn llwyddiannus yn aml yn lleddfu’r iselder. Ond, mae NICE hefyd yn argymell pan fo iselder difrifol yn bresennol (er enghraifft, fel yr amlygir hynny gan ddiffyg egni a chanolbwyntio eithafol, anweithgarwch, neu risg uchel o hunanladdiad), bod y risg yn cael ei reoli a’r iselder yn cael ei drin yn gyntaf

Yn dilyn asesiad cychwynnol 

Mae NICE yn argymell “Dylid cynnig cwrs triniaeth seicolegol sydd yn canolbwyntio ar drawma i bawb sydd yn dioddef â PTSD ( therapi ymddygiadol gwybyddol sydd yn canolbwyntio ar drawma neu ddadsensiteiddio ac ailbrosesu cymudiad y llygaid). Dylai’r triniaethau yma fel arfer gael eu darparu i gleifion allanol unigol.”

Yn achos Cyn-filwyr yn y gymuned, mae’n debygol y bydd y digwyddiadau trawmatig sydd yn ysgogi’r PTSD wedi digwydd nifer o fisoedd neu flynyddoedd ynghynt. Mae NICE yn argymell y dylai’r driniaeth seicolegol sydd yn canolbwyntio ar drawma bara am o leiaf 12 sesiwn neu fwy yn y sefyllfa yma, oherwydd trawmâu lluosog yn aml. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r Cyn-filwyr â PTSD, byddai’r opsiynau triniaethau y dylid eu trafod gynnwys atgyfeirio (neu hunangyfeirio) i GIG Cymru i Gyn-filwyr

Trin PTSD yn ffarmacolegol

Mae NICE yn argymell “na ddylid defnyddio triniaethau cyffuriau ar gyfer PTSD fel triniaeth rheng flaen arferol i oedolion (a ddefnyddir yn gyffredinol neu gan weithwyr iechyd meddwl arbenigol) yn hytrach na therapi seicolegol sydd yn canolbwyntio ar drawma.”

Mae’r gronfa dystiolaeth ar gyfer therapi ffarmacolegol mewn perthynas â PTSD yn wan:-

mirtasapin, amitriptylin a ffenelsin – mae gan bob un dystiolaeth o fuddion clinigol sylweddol

Parocsitine- buddion sylweddol yn ystadegol and nid yn glinigol mewn perthynas â’r prif amrywiolion deilliannol. Ond dyma’r unig gyffur sydd â thrwydded ar gyfer PTSD.

Mae NICE yn argymell mai dim ond Mirtasipin a Parocsitin ddylid eu defnyddio gan feddygon nad ydynt yn arbenigol

Mae NICE hefyd yn argymell y gellir defnyddio hypnoteg yn y tymor byr pan fo aflonyddu ar gwsg yn broblem fawr.

Felly y cyngor i feddygon teulu fyddai cynnig atgyfeirio i unrhyw Gyn-filwr sydd yn dioddef symptomau sydd yn awgrymu PTSD. Ystyriwch GIG Cymru i Gyn-filwyr– gellir cael mynediad at brofiadau defnyddwyr y gwasanaeth yma.



Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau