Modiwl 2: Cynnal cyfarfodydd gwell

Ydych chi’n teimlo eich bod yn mynychu gormod o gyfarfodydd? Ydy’r cyfarfodydd hynny yn aneffeithiol, yn rhy hir ac yn ddiflas yn aml? Mae’r adran hon yn ystyried y problemau ac yn awgrymu atebion.

Gallwch ddefnyddio’r daflen waith fyfyriol hon wrth wylio’r fideos isod.

Beth yw’ch barn am gyfarfodydd? Ydy’r cyfarfodydd rydych yn eu mynychu yn effeithiol? Os ydyn nhw, nodwch pam, ac os nad ydyn nhw nodwch eich rhesymau.

 

Ydy’r priodoleddau sy’n cael eu disgrifio mewn cyfarfodydd “gwael” yn gyfarwydd i chi? Os ydyn nhw, beth allwch CHI ei wneud i newid pethau er gwell?

 

Allwch chi feddwl am unrhyw gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yn ddiangen? Ydy’r eitemau ar yr agenda yn rhai penodol? A oes angen i chi newid?

 

Meddyliwch am y cyfarfod diwethaf y gwnaethoch ei fynychu a orffennodd yn hwyr neu a fethodd â thrafod pob eitem busnes – pam y digwyddodd hyn?

 

Allwch chi ragweld cynnal cyfarfodydd fel hyn? Beth fyddai’r rhwystrau i newid? A oes unrhyw anfanteision i’r dull gweithredu hwn?

 

Lluniwch restr o’r hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn wahanol wrth gadeirio eich cyfarfod nesaf.

 

Beth ydych chi wedi’i ddysgu? Beth fyddwch chi’n ei newid?


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau