Modiwl 1: Diwylliannau sefydliadol a sut i ddylanwadu arnyn nhw

Yn y modiwl hwn byddwn yn canolbwyntio ar:

  • Beth yw hanfod sefydliad?
  • Addasu’ch dull dylanwadu
  • Ydy eu diwylliant rheoli yn wahanol i’ch diwylliant chi?
  • Sut maen nhw’n gweithredu yma?
  • Chwilio am y cliwiau i ddylanwadu ar eich dull gweithredu

Defnyddiwch y daflen waith hon wrth wylio’r fideos isod.

A oes gennych brofiad o fod yn y sefyllfa sydd wedi’i disgrifio? Meddyliwch am yr hyn a allai fod wedi mynd o chwith – a pham!

 

Allwch chi feddwl am sefydliad sy’n cael ei reoli ar sail diwylliant Zeus? Beth yw cryfderau a gwendidau’r dull gweithredu hwn yn eich barn chi?

 

Allwch chi feddwl am enghraifft dda o ddiwylliant Apollo? Beth fyddai sefydliad o’r fath yn ei wneud yn dda? Meddyliwch am y gwahaniaethau rhwng y ddau ddiwylliant cyntaf a ddisgrifiwyd.

 

A oes gennych brofiad o weithio mewn timau bach sydd â “phŵer” wedi’i ddirprwyo? Sut oeddech chi’n teimlo am hynny? Beth yw anfanteision posibl y dull gweithredu hwn?

 

Beth yw natur y diwylliant yn y sefydliad rydych chi’n gweithio iddo? Ydy diwylliant sefydliadol yn gymorth neu’n rhwystr yn eich gweithle?

 

Pa fath o newidiadau allech eu gwneud i’ch dull gweithredu o ganlyniad i’r awgrymiadau hyn?

 

Pa rwystrau ydych chi’n eu rhagweld wrth geisio defnyddio’r dulliau hyn i gael dylanwad?

 

Beth yw’ch prif bwyntiau dysgu? Sut byddwch chi’n newid?

 

Lawrlwythwch y cyflwyniad hwn yma


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau