Senarios posibl eraill

  1. A claf â salwch acíwt
    Mae Wil yn 55 oed ac yn iach fel arfer. Daw galwad ffôn gan ei wraig yn gofyn am ymweliad â’r cartref. Mae’n 2pm ac mae’n dweud “mae wedi bod yn ei wely am 2 ddiwrnod gyda pheswch difrifol ac mae’n chwysu, pan mae’n ceisio codi ar ei draed mae’n teimlo’n chwil, nid yw’n bwyta nac yn yfed llawer”.
  2. Y broblem “bersonol”
    Mae Billy yn 19 oed ac yn gofyn am apwyntiad gyda meddyg benywaidd. Nid oes unrhyw un ar gael ac mae’r meddyg ar dyletswydd yn ddyn. Pan ofynnir iddi am y broblem, mae’n dweud ei bod yn un “bersonol”.
  3. Y claf gyda diabetes sydd yn gaeth i’r tŷ
    Mae Wil yn 80 oed ac mae ganddo ddiabetes. Nid yw’n mynd allan o’r tŷ oherwydd symudedd gwael. Mae dyddiad ei wiriad diabetes blynyddol wedi hen basio.
  4. Gofal diwedd oes
    Mae  Wil yn 63 oed ac mae ganddo ganser pancreatig datblygedig. Yn ddiweddar mae wedi dirywio ac mae ganddo rai problemau gyda phoen.
  5. Amheuaeth o ganser
    Mae Wil yn 54 oed ac mae ei arferion coluddyn wedi newid ac mae’n gwaedu o’r rectwm.

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau