Canlyniadau

Gall canlyniadau Cam 2 edrych fel:

Manylion

Mae’r ffonau yn brysur iawn yn arbennig ar foreau Llun a Mawrth. Weithiau mae yna 4 munud o amser aros yn y system ciwio. Yn aml mae’r apwyntiadau sydd ar gael yn cael eu llenwi erbyn canol dydd, ac yna dim ond slotiau brys sydd ar gael. Ar brydiau mae'r staff ffonau dan straen oherwydd hynny, ac mae’n anodd iddynt wneud unrhyw waith arall ar adegau brig. Mae rhai apwyntiadau meddygon yn cael eu llenwi cyn rhai eraill, a disgrifir apwyntiadau gydag un meddyg fel “aur prin”. Mae’n rhaid i ni ofyn i gleifion “a yw’n fater brys” pan fydd pob apwyntiad “arferol” wedi eu llenwi. Mae hon yn broblem ar y rhan fwyaf o’r dyddiau Llun. Mae cleifion sydd yn ffonio i gael canlyniadau yn ychwanegu at y traffig ffôn.

Canlyniadau  

  • Nid yw cleifion yn cael eu gweld 
  • Mae cleifion yn teimlo’n rhwystredig
  • Mae rhai cleifion yn chwarae’r system “ydi, mae’n fater brys” - mae’r rhain yn tueddu i fod yr un cleifion
  • Ar ochr arall y geiniog, ni fydd rhai cleifion fyth yn dweud ei fod yn fater brys
  • Mae staff ffonau yn teimlo’r straen
  • Sgyrsiau anodd gyda chleifion pan nad oes apwyntiadau ar gael

Awgrymiadau/Atebion/Camau

  • Mwy o linellau ffôn
  • Mwy o staff ffôn
  • Mwy o apwyntiadau
  • System apwyntiadau gwahanol (e.e. rhai apwyntiadau ar gael ar ôl hanner dydd)
  • “Sgriptiau” yn cael eu hysgrifennu ar gyfer delio â chleifion pan nad oes apwyntiadau ar gyfer Dr X 
  • Mwy o ymwybyddiaeth gan staff ffonau pan nad ydynt yn gallu cynnig apwyntiad
  • Staff ffôn penodol
  • Allai meddyg fod ar gael ar gyfer sgwrs ffôn dair ffordd pe na bai apwyntiadau ar gael
  • Beth am system ffôn sydd yn dweud wrth y claf ble maent yn y ciw?
  • Rhoi canlyniadau rhwng 2-4 pm yn unig.
  • System ffonau sydd yn dweud “pwyswch 1 am apwyntiadau, 2 am ganlyniadau etc.”
  • Gwahardd dyddiau Llun!

Ar ôl egwyl dylid cynnal cyfarfod llawn. Gall pob grŵp y  eu tro gyflwyno’n gryno mwy o fanylion a chanlyniadau posibl ac yna awgrymu eu hatebion. Mae cadw cofnodion yn ofalus yn hanfodol yn y sesiwn yma - bydd yna rai atebion y gellir gweithredu arnynt ar unwaith, eraill pan fo angen mwy o gynllunio ac ymchwilio, a rhai na ellir eu cyflawni. Gellir eu cofnodi fel:

Newidiadau cyflym

  • Staff ffôn penodol - cytuno y bydd staff ar gael ar gyfer ateb ffonau yn unig rhwng 8 a 11am
  • Canlyniadau i gael eu rhoi yn ystod cyfnod penodol 

Newidiadau mwy hirdymor (i gael eu cwmpasu gan weithgorau bach)

  • System ffôn newydd - edrych ar negeseuon, ailgyfeirio a mwy o linellau
  • Ail edrych ar y system apwyntiadau - Sgyrsiau ffôn tair ffordd?
  • Ysgrifennu sgriptiau ar gyfer staff ffonau
  • Hyfforddiant i staff ffonau ynghylch ymwybyddiaeth pan nad oes apwyntiadau ar gael

Ar ôl cwblhau hynny ar gyfer pob cam, bydd yna lawer o awgrymiadau ar gyfer gwella. Dylai’r hwylusydd ddod â’r cyfarfod i ben gyda chynllun gweithredu er mwyn bwrw ymlaen gyda rhai o’r awgrymiadau. Gellir cofnodi’r awgrymiadau yma a threfnu cyfarfod dilynol ar gyfer ychydig fisoedd yn ddiweddarach, pan fydd y newidiadau yn cael eu harchwilio er mwyn sicrhau eu bod er gwell!


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau